Mynd i'r cynnwys
Perfformiwr Syrcas NoFit State yn ymgysylltu â thorf o bobl yng Ngŵyl Stryd Clifton

CultureStep

Buddsoddi mewn Cydweithrediadau Creadigol

Wedi’i ariannu gan Hodge Foundation a Moondance Foundation, mae CultureStep wedi’i gynllunio i annog nawdd newydd a datblygu ymgysylltiad busnes sefydledig â’r celfyddydau.

Trwy CultureStep, mae C&B Cymru yn buddsoddi arian parod mewn partneriaethau arloesol o bob math rhwng y ddau sector, gan wella prosiectau a chynyddu eu heffeithiolrwydd hirdymor.

Llun: Syrcas NoFit State – Mark Robson Ffotograffydd

Gall partneru â’r celfyddydau alluogi busnesau i gyflawni amcanion craidd mewn ffyrdd creadigol a phellgyrhaeddol a nod CultureStep yw sicrhau’r effaith fwyaf posibl i bawb sy’n gysylltiedig.

Fe’i cynlluniwyd i helpu cwmnïau i gyfathrebu’n uniongyrchol â’u marchnadoedd targed, ymgysylltu’n effeithiol â’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt a chael mynediad at gyfleoedd datblygu staff diriaethol â ffocws.

Mae’r cynllun yn rhoi cymhelliad uniongyrchol i fusnesau bartneru â’r celfyddydau. Yn benodol, i:

  • dangos Elw ar Fuddsoddiad, cynyddu proffil a galluogi lefel uwch o weithgarwch.
  • lleihau’r “risg” o gychwyn ar bartneriaethau newydd gyda sicrwydd cymeradwyaeth C&B Cymru.
  • sicrhau bod partneriaethau’n cael eu monitro a’u gwerthuso i fesur llwyddiant yn erbyn amcanion a osodwyd.

Rhaid defnyddio buddsoddiad CultureStep i gryfhau a datblygu’r berthynas rhwng y busnes a phartneriaid celfyddydol, drwy weithgarwch celfyddydol.

Rhaid i bob prosiect hefyd fod o fudd i unigolion sydd yn byw yng Nghymru a rhaid i brosiectau fynd i’r afael ag o leiaf un o’r blaenoriaethau canlynol:

  • Celf a’r Amgylchedd: annog partneriaethau sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan ddangos ymrwymiad i arfer gorau amgylcheddol tra’n cael effaith gadarnhaol ar bobl a chymunedau.
  • Celf ac Amrywiaeth: gweithio gyda’r celfyddydau i hyrwyddo a dathlu amrywiaeth a chynhwysiant, ymgysylltu â’r rhai sy’n wynebu rhwystrau ar sail ethnigrwydd, rhyw, galluoedd corfforol, hil, credoau crefyddol neu wleidyddol a chyfeiriadedd rhywiol.
  • Celf a Gweithwyr: annog partneriaethau sy’n cyfuno’r celfyddydau i ddatblygiad gweithwyr ac ar yr un pryd yn ysgogi amgylchedd gweithio mwy creadigol.
  • Celf ac Iechyd a Lles: gweithio gyda’r celfyddydau i gynorthwyo lles meddyliol, emosiynol a / neu gorfforol.
  • Celf a’r Iaith Gymraeg: annog partneriaethau sy’n dathlu ac yn hyrwyddo’r iaith, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd i bobl a chymunedau brofi’r celfyddydau drwy’r Gymraeg.
  • Celf a Phlant: ymgysylltu â phobl ifanc dan anfantais gymdeithasol a phobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol â’r celfyddydau, gan wneud gwahaniaeth diriaethol i’w bywydau.
  • Celf a Phobl Hŷn: ymgysylltu â phobl hŷn sy’n agored i niwed, difreintiedig ac ynysig â’r celfyddydau, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.
  • Celf a Threchu Tlodi: partneru’r celfyddydau i wella bywydau pobl heb adnoddau digonol i ddarparu safon byw derbyniol sy’n eu galluogi i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas.

Gall partneriaid celfyddydol wneud cais am hyd at £1 gan CultureStep am bob £2 a fuddsoddir gan y partner busnes. 

Os oes gennych chi brosiect posibl yr hoffech ei drafod, cysylltwch â C&B Cymru drwy lenwi’r ffurflen gyswllt a bydd rhywun mewn cysylltiad.

Gwneir penderfyniadau CultureStep gan banel a gadeirir gan Brif Weithredwr C&B Cymru. Mae gan aelodau ystod amrywiol o sgiliau ac arbenigedd a dealltwriaeth drylwyr o faterion perthnasol. Mae ganddynt hefyd wybodaeth fanwl am C&B Cymru ac ymrwymiad i’w waith a’i strategaeth.

Mae’r panel yn cynnwys 8 aelod â phleidlais. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob chwarter ac yn gweithredu ar yr egwyddor o gydgyfrifoldeb. Mae gan bob aelod lais cyfartal. Y panel yw:

  • Rachel Jones, Prif Weithredwr, A&B Cymru (Cadeirydd)
  • Kathy Brown, cyn-Is-lywydd Cynorthwyol, Buddsoddiad Cymunedol, Barclays plc
  • Robert Lloyd Griffiths, Cynghorydd Busnes
  • Denise Lord, Codwr Arian Llawrydd
  • Samantha Maskrey, Cadeirydd, Darkley Trust
  • Nigel Petrie, Cyfarwyddwr, Petrie and Company
  • Lynne Sheehy, cyn-Rheolwr CCC , Legal & General
  • Richard Tynen, Cyfarwyddwr, The Funding Centre

Dyddiad cau: 9 Mai 2024
Dyddiad y cyfarfod: 23 Mai 2024

Dyddiad cau: 27 Mehefin 2024
Dyddiad y cyfarfod: 11 Gorffennaf 2024

Dyddiad cau: 26 Medi 2024
Dyddiad y cyfarfod: 10 Hydref 2024

Dyddiad cau: 28 Tachwedd 2024
Dyddiad y cyfarfod: 12 Rhagfyr 2024

Dyddiad cau: 6 Mawrth 2025
Dyddiad y cyfarfod: 20 Mawrth 2025

Newyddion CultureStep Mis Rhagfyr 2023

Fis Rhagfyr eleni, cyfarfu Panel CultureStep i drafod y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer pedwerydd cyfarfod y flwyddyn ariannol hon.

Cadarnhawyd wyth buddsoddiad a fydd yn helpu i gryfhau a chynnal partneriaethau arloesol rhwng busnes a’r celfyddydau. Y prosiectau yw:

  • Lighthouse Theatre ac Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) Mae’r partneriaid yn cydweithio ar ail flwyddyn The Tides Are A-Changing, drama sy’n olrhain hanes cymdeithasol, morol a diwydiannol Tiger Bay, Butetown, Dociau a Bae Caerdydd. Yn ogystal â chynnydd yn nifer y perfformiadau, bydd Lighthouse Theatre yn datblygu’r ddrama yn 2024 i amlygu natur amrywiol y straeon. Mae CultureStep yn cryfhau’r bartneriaeth drwy gyfrannu at y prosiect cyffredinol.
  • Mack Events Presents a CJCH Solicitors, Barry Training Services, Forklift Specialists, Finnegans Inn, Gary Watson Motor Company, Ruckleys, RJR BAR Services, ISO Guy Systems, The Rock Shop, Loaded Dice, Truffle Specialist Finance, Bro Radio ac Sunkiss Tanning Salon. Mae CJCH Solicitors wedi cefnogi Gŵyl Gerdd GlastonBarry ers chwe blynedd. Bydd GlastonBarry Juniors yn cael ei chynnal ar ddiwrnod cyntaf gŵyl 2024 gyda’r nod o ymgysylltu pobl ifanc â cherddoriaeth. Bydd cystadleuaeth dalent ddwyieithog dan 18, Chwilio am Seren, yn annog ac yn hybu cantorion ifanc dawnus. Mae CultureStep yn ehangu cyrhaeddiad y bartneriaeth drwy ariannu 40 o docynnau teulu am ddim i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd o’r gymuned leol sydd o dan anfantais economaidd.
  • Celfydyddau Ieuenctid Cymru (CCIC) a WSP UK Mewn partneriaeth newydd, noddodd WSP UK CCIC i ddarparu llwyfan proffesiynol i gyn-fyfyrwyr ifanc o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC), gan gynnwys perfformiad yn ystod cynhadledd y Gymdeithas Dŵr Mwyngloddio Ryngwladol yn ICC Cymru. Mae’r partneriaid bellach yn datblygu cynllun ymarfer peilot gyda Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru, gan alluogi hyd at 100 o gerddorion ifanc i elwa ar brofiad cerddorfaol trwy weithdai cerddorfa linynnol ranbarthol dwys. I ategu hyn, mae CultureStep yn ariannu cynllun Mentora Cymheiriaid, gan roi cyfleoedd cyflogedig i uwch aelodau presennol CGIC a chyn-fyfyrwyr diweddar. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i’r bobl ifanc ddatblygu eu profiad trwy ymarfer gyda chyfranogwyr a helpu i gyflwyno hyfforddiant ochr yn ochr â thiwtoriaid proffesiynol CGIC.
  • Urdd Gobaith Cymru a Llaeth y Llan a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion Mewn pumed blwyddyn o bartneriaeth, mae Llaeth y Llan a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yn cefnogi’r Urdd i ymgysylltu â 90 o blant ysgol o ysgolion Saesneg, Cymraeg ac addysg arbennig. Bydd gweithdai yn cael eu cyflwyno i greu gweithiau celf fydd yn cael eu harddangos ar Faes yr Eisteddfod. Bydd y gweithdai’n cael eu hail-greu yn yr ŵyl i ymgysylltu â 200 o blant eraill. Mae CultureStep yn cryfhau’r bartneriaeth drwy gyfrannu at gostau’r gweithdai.
  • The Other Room (TOR) a Bad Wolf TV Mae Bad Wolf wedi partneru The Other Room ers pedair blynedd i gefnogi cronfa dalent y sefydliad celfyddydol. Yn 2024, mae’r busnes yn noddi cynhyrchu a llwyfannu Dumpy Biscuit, drama gan awdur cyntaf sy’n dilyn pedair merch ifanc wrth iddynt lywio eu hunaniaeth rywiol yn nhref Port Talbot sy’n gweithio mewn dur. Mae CultureStep yn ehangu’r bartneriaeth drwy ariannu allgymorth cymunedol, yn ogystal â hyfforddiant Touch Tour ar gyfer rheoli llwyfan a fydd yn galluogi mynediad i gynulleidfaoedd a chyfranogwyr dall, â nam ar eu golwg, neu â golwg rhannol.
  • Engage Cymru a CGI Trwy Broceriaeth C&B Cymru, comisiynodd CGI Engage Cymru i gyflwyno gweithdai yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro ac Abertawe ar gyfer 80 o bobl hŷn. Nod y prosiect yw cynyddu sgiliau digidol y cyfranogwyr tra’n darparu cyfleoedd i gymdeithasu a chysylltu ag eraill yn y gymuned. Mae CultureStep yn cyfrannu at y prosiect cyffredinol.
  • Anthem a Bizspace Trwy ddarpariaeth mewn nwyddau o’i swyddfeydd mwyaf a chymhorthdal o’r holl gostau cyffredinol, mae Bizspace yn cefnogi Anthem i dyfu canolbwynt diwylliannol cerddoriaeth ieuenctid, gan ymgysylltu â 30+ o bobl ifanc dawnus o amrywiaeth o gefndiroedd a dros 100 o weithwyr Bizspace. Mae CultureStep yn ehangu cyrhaeddiad y bartneriaeth drwy ariannu perfformiadau aelodau’r hwb, yn ogystal â gweminar dan arweiniad ieuenctid i alluogi 100+ o bobl ifanc ychwanegol i archwilio cynwysoldeb yn y diwydiant cerddoriaeth.
  • Rubicon Dance a Rubicon Facilities Management Wales Yn ei flwyddyn gyntaf o bartneriaeth, cefnogodd Rubicon Facilities Management Wales, Rubicon Dance i gyflwyno sesiynau yn Ysbyty Dewi Sant a Chartref Gofal Woodcroft. Mae CultureStep yn ehangu cyrhaeddiad y bartneriaeth drwy gyfrannu at berfformiadau sy’n canolbwyntio ar fater cymdeithasol yr argyfwng tai, yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. Byddant yn cyrraedd cynulleidfa o hyd at 600 o bobl, gan gynnwys plant o Ysgolion Cynradd yn Adamsdown, Caerdydd.

Hyd yma yn y flwyddyn ariannol hon, mae CultureStep wedi buddsoddi mewn 29 o bartneriaethau. Y derbynwyr a gadarnhawyd yn y Paneli blaenorol oedd:

  • Arts Connection a Wind 2
  • Canolfan Gerdd William Mathias a Les Harpes Camac
  • Canolfan Gerdd William Mathias a Pendine Park Care Organisation
  • Engage Cymru a Tai Wales & West
  • Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a Ty Architecture Cyf
  • Gŵyl Gerdd y Bont-Faen a Richard H Powell & Partners a Tidy Translations
  • Hijinx a Morgan Quarter a FOR Cardiff
  • Making Sense a RWE Renewals UK Swindon Limited
  • Menter Caerdydd Tafwyl a Choleg Caerdydd a’r Fro
  • Mewn Cymeriad a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Merched y Wawr
  • OPRA Cymru a Magnox a Bwydydd Castell Howell
  • Role Plays for Training a Chartrefi Conwy
  • Shelter Cymru a HSBC ac IKEA
  • studioMADE Creative a RWE Renewals UK Swindon Limited
  • Syrcas NoFit State a CELSA Steel UK
  • Syrcas NoFit State a Chymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd
  • Tanio a Linc Cymru Housing Association
  • The Denbigh Workshop a RWE Renewals UK Swindon Limited
  • The Successors of the Mandingue a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon a Thrafnidiaeth Casnewydd
  • Vision Arts a Valero

Gall partneriaid celfyddydol wneud cais am hyd at £1 gan CultureStep am bob £2 a fuddsoddir gan y partner busnes.

Y dyddiad cau nesaf yw 1 Mawrth 2024. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â contactus@aandbcymru.org.uk

Cysylltwch â ni

Llenwch y ffurflen isod i gysylltu â ni






    Dysgwch fwy am CultureStep drwy ddarllen ein Hastudiaethau Achos

    Darllenwch ein hastudiaethau achos